top of page

CARTREF            AM Y SIOE           POBL GREADIGOL           ORIEL           DYDDIADAU TEITHIO            GWYBODAETH I THEATRAU

THEATR NA NÓG / CYNHYRCHIADAU TNN PRODUCTIONS

 

Mae Theatr na nÓg ar genhadaeth i danio dychymyg y genedl. Maent yn credu yn y pŵer o theatr bwysig i ysbrydoli newid hir-fywyd, a chyfoethogi bywydau pobl o bob oed. Gyda’i gwreiddiau yn y Cymoedd Cymreig, maent yn creu theatr wreiddiol yn y Saesneg a’r Gymraeg sy’n ysbrydoli a dal sylw cynulleidfaoedd o bob oed ar draws Cymru a thu hwnt.

 

Golyga ei henw ‘theatr o ieuenctid tragwyddol,’ ac maent yn dod a’r egni a’r beilchion yma i greu gwaith newydd gwych sydd yn sylfaenol i’w chartref yng Nghastell Nedd, ac sy’n effeithiol  at gysylltu â’u chynulleidfaoedd ble bynnag maent yn teithio, o Abertawe i Singapore. Mae eu sioeau o’r un ansawdd uchel, uchelgais artistig a safon broffesiynol ar gyfer pob cynulleidfa - oedolion neu blant. Mae Theatr na nÓg yn dwlu dod â bywyd i’r storiâu gan bobl gyffredin sy’n cyflawni pethau hynod. Maent yn gweithio gyda, ac yn creu cynyrchiadau gwreiddiol ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc ac ysgolion, ac maent hefyd yn ddarparwr gwaith prif lwyfan gydag apêl ar gyfer ystod eang o oedrannau.

 

Llwyddiant hynod fwyaf diweddar Theatr na nÓg oedd gyda’u cynhyrchiad o ‘TOM the Musical.’ Stori am Tom Jones wnaeth deithio i 12 lleoliad ar draws y DU, chwaraewyd 83 o berfformiadau i dros 41,000 o bobl. Sefydlwyd Theatr na nÓg 35 mlynedd yn ôl i gwrdd anghenion y gymuned yng Ngorllewin Morgannwg. Maent wedi dod ffordd bell ers hynny, ond mae eu hethos wedi parhau’r un peth. Maent yn credu y dylai pobl o bob oed a chefndir fod yn gallu profi theatr hygyrch, byw o’r safon uchaf.

 

Fel elusen gofrestredig, maent yn dibynnu ar gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, cwmnïau preifat ac ariannu eraill i wneud eu gwaith yn bosib. Bob blwyddyn, mae dros 16,000 o bobl ifanc a’u teuluoedd yn mynychu eu perfformiadau addysgiadol.

 

Mae Theatr na nÓg yn gwmni cysylltiol i Ganolfan Mileniwm Cymru ac yn mwynhau breuddwydio cydweithrediadau cyffrous tu allan i fyd theatr. Mae eu rhestr o gydweithrediadau’n tyfu ac yn cynnwys yr Amgueddfa Hanes Naturiol (Llundain), Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, a Chanolfan Gwyddoniaeth Singapore.

 

www.theatr-nanog.co.uk

bottom of page