top of page

CARTREF            AM Y SIOE           POBL GREADIGOL           ORIEL           DYDDIADAU TEITHIO            GWYBODAETH I THEATRAU

KATE WILLIAMS

Rheolwr Cyffredinol

 

Cafodd Kate ei geni yn Coventry ac fe wnaeth hyfforddi fel cerddor yn chwarae’r clarinét, sacsoffon a chanu’r piano gan raddio o Bath Spa University College gyda gradd mewn Cerddoriaeth: Sain & Delwedd.

 

Cyn ymuno â Theatr na nÓg yn Rhagfyr 2016, gweithiodd i’r Newbury Corn Exchange yn Berkshire am saith mlynedd, pedair blynedd fel Rheolwr Theatr ac yna am dair blynedd fel Rheolwr Masnachol a Gwerthiant yn goruchwylio holl weithrediadau blaen tŷ a digwyddiadau.

 

Cyn hyn gweithiodd gyda Chwmni Theatr New Perspectives yn rhedeg rhaglen Cynllun Teithio Gwledig Northamptonshire ar gyfer 60 lleoliad cymunedol ar draws y wlad ac mae’n honni ei bod yn gallu llywio Northamptonshire gan bentrefi yn ogystal â darganfod unrhyw neuadd bentref drwy reddf yn unig.

 

Mae hefyd wedi bod yn Rheolwr Theatr ac yn rhaglennydd ar gyfer y Bridport Arts Centre yn Dorset a’r Brewery Arts yn Cirencester.

 

Yn ei hamser hamdden mae Kate wrth ei bodd yn pobi ac yn mwynhau creu cacennau newyddbeth, mae hefyd yn gweithio o adref fel ymarferydd reiki yn trin pobl ac weithiau mochyn cwta.

Mae’n byw mewn pentre’ i’r gogledd o Gastell-nedd ac mae’n ceisio ddarganfod ei gwereiddiau teuluol Cymraeg yn ogystal â dysgu Cymraeg

bottom of page