Mae Theatr na nÓg ac Aneurin Leisure yn cyflwyno dangosiad o’i gyd-cynhyrchiaid
NYE & JENNIE
Wedi ei ffilmio yn Y Met, Abertyleri Tachwedd 2017
Premiering on Sunday 5 July at 7.30pm, the anniversary of the creation of the NHS.
Followed by a live Q&A on Zoom with the writer Meredydd Barker, director Geinor Styles and actors Gareth John Bale and Louise Collins.
Mae’r ddau ddigwyddiad am ddim, ond byddwn yn gofyn am roddion i gefnogi’r theatrau wnaeth gymryd taith Nye & Jenni ym mis Hydref 2018 ac sydd naw wedi colli eu hincwm oherwydd Covid 19.
Archebwch yma i wylio’r sioe am ddim https://nyeandjennie.eventbrite.co.uk
Archebwch eich lle ar y sesiwn cwestiwn ac ateb yma. Bydd y sesiwn yn cynchwyn syth ar oly sioe.
https://nyeandjennieqanda.eventbrite.co.uk
Ar ôl archebu, bydd y sioe ar gael i'w gwylio unrhyw bryd tan 10pm ar ddydd
Sul y 19eg o Orffennaf.

Roedd Aneurin Bevan a Jennie Lee yn gymrodyr, wedi rhannu fflat, ac wedi eiriol a brwydro dros sosialaeth; ef o Dredegar, ac yn un o feincwyr cefn penboeth y Blaid Lafur, a hithau’n ferch i löwr o Fife, ac yn AS Sosialaidd cyn bod yn ddigon hen i bleidleisio.
Wedyn, bu priodas; ef mewn cariad angerddol, a hithau’n ceisio dygymod â charwriaeth arall oedd newydd ddod i ben. Ill dau’n cael eu caru a’u casáu gan eu cyd-aelodau seneddol; ef oedd y ‘Bollinger Bolshevik’; hithau ei Arglwyddes Macbeth, yr angel dywyll ar ei ysgwydd. Datblygodd eu perthynas yn ystod blynyddoedd didostur y rhyfel, drwy anawsterau sefydlu’r GIG, gelyniaeth fileinig y 1950au, gyda’u cariad yn aeddfedu a dyfnhau. Dyma stori am bartneriaeth unigryw - un o briodasau gwleidyddol mwyaf eithriadol yr ugeinfed ganrif.
Stori NYE & JENNIE.
Dramodydd MEREDYDD BARKER
A enwebwyd am y Ddramodydd Gorau yn yr laith Saesneg – Gwobrau Theatr Cymru 2018
Cyfarwyddydd GEINOR STYLES
Cynhyrchwyr Aneurin Leisure a Theatr na nÓg / Cynhyrchiadau TNN Productions