top of page

CARTREF            AM Y SIOE           POBL GREADIGOL           ORIEL           DYDDIADAU TEITHIO            GWYBODAETH I THEATRAU

HAMDDEN ANEURIN

Sefydliad elusennol wedi ei ffocysu ar y gymuned yw Hamdden Aneurin wedi ei seilio yn rhanbarth Blaenau’r Cymoedd, yn cyflwyno Hamdden, Dysgu a Gwasanaethau Diwylliannol ym Mlaenau.

 

Caiff ein busnes ei gyflwyno drwy ystod o weithgareddau, yn gweithredu allan o’n canolfannau chwaraeon, llyfrgelloedd, parciau gwledig, canolfannau dysgu a chanolfan/theatr ddiwylliannol.

 

Fel sefydliad, mae Hamdden Hamdden

HHamAneurin yn angerddol am wella bywyd cymunedol ac am gael effaith positif ar fywydau pobl nid yn unig drwy wella eu hiechyd corfforol a lles, ond hefyd eu lles meddyliol a chymdeithasol.

 

Mae segment Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau'r sefydliad yn rheoli gweithgaredd celfyddydol a digwyddiadau ar raddfa fawr mewn lleoliadau Hamdden Aneurin. Caiff ffocws y rhaglen gelf ei chanoli ar ganolfan Ddiwylliannol a Chynadleddau Y Metropole yn Abertyleri.

 

Mae ein gweithgareddau yn ymochrol agos i’r Ddeddf Iechyd a Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan weithio’n benodol i ymgodymu â lles meddwl, dementia, tewdra a chlefyd siwgr yn y rhanbarth.

Rydym yn cyflwyno ystod eang o ddigwyddiadau celf a diwylliannol o ansawdd, sy’n hygyrch ac a fydd yn herio, adlonni a datblygu cynulleidfaoedd o bob oed gan ddarparu cyfleoedd i ehangu gorwelion a gwella profiadau bywyd.

www.aneurinleisure.org.uk

bottom of page