top of page

CARTREF            AM Y SIOE           POBL GREADIGOL           ORIEL           DYDDIADAU TEITHIO            GWYBODAETH I THEATRAU

GERAINT CHINNOCK

Rheolwr Cynhyrchu

 

Wedi graddio a gweithio yn Adran Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, dychwelodd Geraint adref i Ynysybwl i weithio yn ei hen ysgol sef Ysgol Gyfun Rhydfelen a’r Ganolfan Dysgu Gydol Oes yng Ngartholwg fel eu Technegydd Theatr.

 

Penderfynodd yn 2008 i ddilyn ei yrfa fel Rheolwr Llwyfan Ffrilans. Mae e wedi gweithio gydag amryw o gwmnïau theatr yn cynnwys Cwmni Rhosys Cochion, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, Arad Goch, Wales Theatre Company, Cwmni Martyn Geraint, Downtown Productions, National Theatre Wales a’r Eisteddfod Genedlaethol.

 

Teithiodd Geraint o amgylch America hefyd gyda Chôr Meibion y Mynydd Du fel aelod o’r côr a Rheolwr Llwyfan.

 

Dechreuodd Geraint weithio gyda Theatr na nÓg yng Ngwanwyn 2011 fel Rheolwr Llwyfan ond yn gyflym iawn fe ddaeth yn Rheolwr Cynhyrchu llawn amser y Cwmni yn 2012. Ers hynny, mae e wedi rheoli holl gynyrchiadau y cwmni gan gynnwys "TOM A Story of Tom Jones A Musical" (Taith Rhif 1 y DU 2016), 'Rosie's War" (Dylan Thomas Theatre), "Halt! Who goes there?" (Dylan Thomas Theatre), "The Ghost of Morfa Colliery" (Dylan Thomas Theatre), "You Should Ask Of Wallace "(Taith ysgolion a rhyngwladol), "We Need Bees"(Taith y DU), "The Amazing Adventures of Wallace and Bates (Taith ysgolion) "The Ghost of Morfa Colliery" (Dylan Thomas Theatre) a "The Arandora Star" (Taith y DU).

 

Yn 2013, gweithiodd Geraint i’r Gardyne Theatre yn Dundee, lle rheolodd cynhyrchiad o sioe gerdd newydd 'Jackie the Musical’ gyda The Gardyne Theatre yn Dundee ac yn 2015, dysgodd Rheoli Llwyfan ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin.

 

Bellach, mae Geraint yn byw yng Nghaerdydd ble mae’n mwynhau canu gyda Bechgyn Bro Taf a heicio fyny mynyddoedd pan gaiff y cyfle.

bottom of page