top of page

DAISY WILLIAMS
Cynorthwyydd Cynhyrchu
Ganed Daisy yng Nghasnewydd a graddiodd mewn Actio o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn 2015. Yn 2014, astudiodd Daisy ym Mhrifysgol North Carolina, Greensboro a tra yno, cafodd y cyfle i deithio o amgylch America – Profiad Bythgofiadwy. Ymunodd â’r cwmni ym mis Medi 2015 a chafodd y rôl o fod yn gydlynydd Tîm Llysgenhadon Ifanc y cwmni ym mis Medi 2016, swydd a thîm mae’n falch iawn o fod yn rhan ohoni. Mae Daisy wrth ei bodd yn dawnsio ac wedi hyfforddi mewn Ballet a dawns Cyfoes o ysgol ddawns Margaret Lawrence. Mae hi dal yn parhau i berfformio a chynorthwyo gyda chynyrchiadau Cwmni Dawns Ieuenctid Sbardun Gwreiddiol. Ar hyn o bryd mae Daisy yn byw yng Nghaerdydd.
bottom of page