top of page

CARTREF            AM Y SIOE           POBL GREADIGOL           ORIEL           DYDDIADAU TEITHIO            GWYBODAETH I THEATRAU

SUZANNE ALLEN

Rheolwr Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau

 

Cafodd Suzanne ei geni yn Ne Cymru ac mae’n gweithio i Hamdden Aneurin fel Rheolwr Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau.

Dechreuodd hoffter Suzanne yn y Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth wedi iddi adael Coleg y Drindod, Caerfyrddin. Gan benderfynu nad oedd addysgu yn broffesiwn iddi, dechreuodd ei gyrfa ym myd Twristiaeth gan weithio drwy Ewrop fel Rheolwr Teithio.

 

Ym 1991, ymunodd Suzanne â’r Llywodraeth Leol a gweithiodd yn Atyniad Twristiaeth Hanes Byw Llancaiach Fawr, ble wnaeth hi weithio am 13 mlynedd, i ddechrau fel Prif Actor/Dehonglwr ac yn olaf fel Rheolwr Cyffredinol.

Yna aeth Suzanne ymlaen i BST Torfaen ble gweithiodd fel Cyfarwyddwr Fferm Gymunedol Greenmeadow gyda’r Adran Dwristiaeth,gan ddatblygu strategaeth ddyfodol ar gyfer yr Atyniad Twristiaeth sydd wedi ennill llu o wobrau. 

 

Drwy gydol yr amser yma, fe wnaeth Suzanne gwblhau gwaith ymgynghoriaeth ar gyfer sawl Canolfan Treftadaeth ac Atyniadau Twristiaeth yn y DU ac Iwerddon gan ddatblygu digwyddiadau a dulliau dehongliadau.

 

Mae Suzanne yn siaradwr rhugl yn y Ffrangeg ac yn ei hamser rhydd, mae’n treulio cymaint o amser ag sy’n bosib yn Ffrainc gan ei bod yn parhau i drefnu teithiau i wahanol ranbarthau o Ffrainc. 

bottom of page