top of page

CARTREF            AM Y SIOE           POBL GREADIGOL           ORIEL           DYDDIADAU TEITHIO            GWYBODAETH I THEATRAU

1897 Aneurin Bevan, mab i löwr, a anwyd ar 15fed o Dachwedd yn Nhredegar, Cymru.

 

1904 Jennie Lee, merch i löwr, a anwyd yn Lochgelly, Fife, ar 3ydd o Dachwedd.

 

1910 Bevan yn gadael ysgol ac yn dechrau gweithio mewn pwll glo lleol. Daw yn actifydd undeb llafur ac mae’n ennill ysgoloriaeth i astudio yn Llundain.

 

1926 Y Streic Gyffredinol. Bevan yn dod yn un o arweinyddion glowyr De Cymru. Lee yn graddio o Brifysgol Caeredin ac yn dod yn athro.

 

1929 Bevan yn cael ei ethol fel aelod Llafur y senedd ar gyfer Glynebwy. Lee yn cael ei ethol i’r Tŷ Cyffredin fel ymgeisydd CDU yn cynrychioli North Lanark, a thrwy hynny yn dod y AS ifancaf y wlad.

 

1934 Aneurin Bevan a Jennie Lee yn priodi.

 

1940 Yr Arglwydd Beaverbrook, Gweinidog Cynhyrchu Awyrennau, yn cyflogi Lee yn ei hadran. Yn hwyrach mae’n gadael i weithio fel newyddiadurwraig ar gyfer y Daily Mirror. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daw Bevan yn un o arweinwyr yr adain chwith yn y Tŷ Cyffredin.

 

1945 Yn yr Etholiad Cyffredinol, Lee yn ennill etholaeth Cannock yn Staffordshire. Yn y llywodraeth a ffurfiwyd gan Clement Attlee, caiff Bevan ei wneud yn Weinidog Iechyd ac yn gyfrifol am gyflwyno’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol.

 

1951 Bevan yn cael ei symud i fod yn Weinidog Llafur. Ychydig wedi hynny, mae’n ymddeol o’r llywodraeth mewn protest oherwydd cyflwyniad taliadau presgripsiwn ar gyfer gofal deintyddol a sbectol. Bevan sy’n arwain yr adain chwith y Blaid Lafur, a’i hadnabyddir fel y 'Bevanites', am y bum mlynedd nesaf.

 

1955 Bevan yn sefyll fel un o’r ymgeiswyr ar gyfer arweinydd y blaid ond yn cael ei orchfygu gan Hugh Gaitskell. Mae’n cytuno i wasanaethu fel ysgrifennydd tramor cysgodol o dan Gaitskell.

 

1957 Bevan yn gwrthod diarfogiad niwclear unochrog yng Nghynhadledd y Blaid Lafur 1957 a, drwy wneud hynny, yn dieithrio nifer o’i ddilynwyr craidd.

 

1959 Bevan yn cael ei ethol fel dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, er mae e’n barod yn dioddef o ganser terfynol.

 

1960 Aneurin Bevan yn marw ar 6ed o Orffennaf.

 

1964 Ar ôl yr Etholiad Cyffredinol, caiff Lee ei hapwyntio fel y gweinidog celfyddydau ac yn gyfrifol am yr hyn wnaeth Harold Wilson ei alw’n hwyrach fel cyflawniad mwyaf ei Lywodraeth Llafur, sef sefydlu’r Brifysgol Agored.

 

1970 Lee yn ymddeol o’r senedd a chaiff ei phenodi fel Barwnes Lee o Asheridge.

 

1988 Jennie Lee yn marw ar 16eg o Dachwedd.

*'Cynhyrchiad uniaith Saesneg'

bottom of page